Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendau'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn cyfarfod, ac mae modd eu gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 10 Mehefin 2014 a dydd Mercher 11 Mehefin 2014
Dydd Mawrth 17 Mehefin 2014 a dydd Mercher 18 Mehefin 2014
Dydd Mawrth 24 Mehefin 2014 a dydd Mercher 25 Mehefin 2014
***********************************************************************
Dydd Mawrth 10 Mehefin 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Rôl Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wrth Fynd i'r Afael â'r Agenda Trechu Tlodi (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Mynd i'r Afael â Thlodi Tanwydd drwy Effeithlonrwydd Ynni (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Model Cenedlaethol o Ddysgu Proffesiynol (45 munud)
· Dadl: Gwella Iechyd Meddwl (60 munud)
Dydd Mercher 11 Mehefin 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar Araith y Frenhines (120 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) (30 munud)
Dydd Mawrth 17 Mehefin 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Dyfodol Glastir o dan y Cynllun Datblygu Gwledig (45 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Twristiaeth (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi: Cyflawni Teuluoedd yn Gyntaf (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Creu'r amodau ar gyfer twf gwyrdd (30 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Tai (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 18 Mehefin 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
· Dadl Fer – Nick Ramsay (Mynwy) (30 munud)
Dydd Mawrth 24 Mehefin 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Adroddiad Blynyddol Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru 2014 (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Ymateb i Adroddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru (30 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Dadreoleiddio mewn perthynas â gwelliannau i'r Bil mewn perthynas â Deddf Daliadau Amaethyddol 1986, Deddf Bridio Cŵn 1973 a Deddf Bridio a Gwrthu Cŵn (Lles) 1999 (15 munud)
· Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Tai (Cymru) (180 munud)
Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig. Os nad yw’r Cynulliad yn cytuno ar y cynnig, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Dydd Mercher 25 Mehefin 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer – Andrew RT Davies (Canol De Cymru) (30 munud)